Croeso!

‘Mae Artbeat Aberhonddu yn fenter newydd, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, sydd â’r nod o ddarparu gweithdai a hyfforddiant i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio cerddoriaeth er mwyn hybu lles, cefnogi cymuned, datblygu sgiliau arwain a chyfathrebu da, ac er mwyn annog perthnasau iach.

Nid dim ond cerddoriaeth sy’n bwysig!

Mae’r fenter wedi’i seilio ar ddull o weithredu o’r enw Lifemusic, a sefydlwyd fel ymyrraeth wreiddiol a hygyrch yn y DU a thu hwnt, gyda tystiolaeth o’i lwyddiant. Mae Lifemusic yn dangos sut y gall gweithgarwch cerddorol esgor ar nifer amrywiol o ganlyniadau buddiol ymhlith ystod eang o grwpiau cymunedol na fuasai fel arall wedi ystyried cerddoriaeth fel opsiwn o’r blaen. Mae’r grwpiau sydd wedi elwa yn y gorffennol o’r gefnogaeth y mae Lifemusic yn ei ddarparu yn cynnwys:

  • artistiaid a chrewyr cerddoriaeth
  • athrawon ac arweinwyr cerdd
  • cwnselwyr a therapyddion
  • myfyrwyr
  • plant a theuluoedd
  • gweithwyr proffesiynol cymdeithasol a gofal iechyd
  • gweithwyr cefnogi
  • pobl hŷn
  • grwpiau bregus
  • y gymuned ryngwladol (gan gynnwys ceiswyr lloches)
  • pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu niwro-anabledd
  • grwpiau sefydliadol (e.e. rheoli, AD a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau)

Mae manteision cyffredinol Lifemusic, yn seiliedig ar dystiolaeth o weithgarwch blaenorol ac ar adborth oddi wrth grwpiau amrywiol, yn cynnwys:

  • ymdeimlad o les (emosiynol, corfforol a meddyliol)
  • cyfathrebu gwell
  • hwb i hyder
  • ymwybyddiaeth gymdeithasol a rhyng-berthynol
  • Llythrennedd emosiynol
  • ymdeimlad cryfach o gymuned
  • adeiladu tîm
  • arweinyddiaeth

Egwyddorion a Chynhwysion

Adeiladwyd Dull Lifemusic ar bedair egwyddor sylfaenol:

  • Mae pawb yn gerddorol
  • does na ddim y fath beth â nodyn anghywir
  • mae pob sain â rhyw ystyr neu’i gilydd
  • mae creu cerddoriaeth yn datblygu ymddiriedaeth

ac mae’n cynnwys pedwar cynhwysyn syml:

  • cyfranogiad
  • cyfathrebu
  • gwaith byrfyfyr
  • dathlu

Mae’n gynhwysol, yn anfeirniadol ac yn hynod hygyrch i bawb sy’n dod ato.

Mae lifemusic yn rhoi’r gân yn nghalon pawb!

Hyfforddiant Lifemusic

Sefydlwyd rhaglen hyfforddi 36 awr o hyd rhwng 2008-2010 wedi’i chynllunio ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno defnyddio’r dull yn eu gwaith ac yn eu bywyd proffesiynol. Dyluniwyd yr hyfforddiant i fod yn hygyrch i gerddorion medrus a cherddorion heb eu hyfforddi: mae grwpiau a hyfforddwyd o’r blaen wedi cynnwys (yn ogystal â cherddorion) athrawon, cwnselwyr a therapyddion, gweithwyr gofal, gweithwyr meddygol proffesiynol, artistiaid, actorion a gweithwyr o fyd busnes a thimau rheoli: adroddodd pob un ohonynt iddynt ganfod bod y dull yn berthnasol i’w bywydau proffesiynol. Rhwng 2010 a 2016 fe wnaeth dros 150 o unigolion gymryd rhan yn yr hyfforddiant yn ne Lloegr ac yng Ngweriniaeth Iwerddon. Cynhaliwyd cannoedd o sesiynau Lifemusic ac mae llawer o ymarferwyr yn weithredol hyd heddiw fel aelodau o Urdd Cerddorion Lifemusic.

Lifemusic yn Aberhonddu

Rhwng nawr a diwedd mis Hydref byddwn yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ac ymarferiad marchnata er mwyn medru tafoli’r potensial ar gyfer sefydlu rhaglen hyfforddi Lifemusic yn y fro. Bydd hyn yn cynnwys PEDAIR sesiwn beilot a fydd yn cael eu cynnal yn ystod mis Hydref ar y cyd â Theatr Brycheiniog.

Rydym bellach yn gwahodd partneriaid posib, ac unrhyw unigolion a hoffai fod yn rhan o’r fenter hon, fynegi eu diddordeb. ‘Mae Artbeat Aberhonddu yn bwriadu gweithio mewn ffordd gefnogol ac mewn cydweithrediad ag unrhyw brosiectau a sefydliadau sydd eisoes yn weithgar ym maes cerddoriaeth a phrosiectau cymunedol.